Neidio i'r cynnwys

Argo Navis

Oddi ar Wicipedia
Argo Navis
Enghraifft o:cyn-gytser Edit this on Wikidata
Yn cynnwysPuppis, Carina, Vela Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0v84 edit this on wikidata
QuoraMast edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Un o'r 48 cytserau yn awyr y nos a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest yw Argo Navis. "Argo Navis" yw'r enw Lladin am "y llong Argo", sef llong Iason a'r Argonawtiaid ym mytholeg yr Hen Roeg. Roedd yn gytser mawr yn hemisffer wybrennol y de, ond mae seryddwyr modern wedi ei rannu'n dair rhan: Puppis, Carina a Vela. Gwnaed y rhaniad hwn gyntaf gan y seryddwr Nicolas Louis de Lacaille yn 1756, ond ni ddaeth yr hen gytser i ben yn swyddogol tan 1930. Felly nid yw Argo Navis yn un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.[1]

Argo Navis fel y darlunir yn Firmamentum Sobiescianum, sive Uranographia gan Johannes Hevelius (1690)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Argo Navis", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 26 Mawrth 2025