Arthur Evans
Gwedd
| Arthur Evans | |
|---|---|
| Ganwyd | Arthur John Evans 8 Gorffennaf 1851 Nash Mills |
| Bu farw | 11 Gorffennaf 1941 Youlbury House |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Addysg | doethuriaeth, Doethur mewn Athroniaeth, gradd er anrhydedd |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | anthropolegydd, hanesydd celf, archeolegydd, nwmismatydd, archaeolegydd cynhanes |
| Swydd | President of the Royal Numismatic Society |
| Prif ddylanwad | John Evans |
| Tad | John Evans |
| Mam | Harriet Ann Dickinson |
| Priod | Margaret Freeman Evans |
| Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Aur Frenhinol, Medal Copley, Marchog Faglor, Medal y Gymdeithas Niwmismatig Frenhinol, Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Gwobr Medal Huntington, Medal Lyell, Medal Goffa Huxley, Doethur er Anrhydedd Prifysgol Bordeaux |
Hynafiaethydd ac archaeolegydd o Loegr oedd Syr Arthur John Evans (8 Gorffennaf 1851 – 11 Gorffennaf 1941).[1] Fe'i ganwyd yn Nash Mills, Swydd Hertford yn fab i'r diwydiannwr a'r archaeolegydd Syr John Evans (1823 - 1908).
Roedd Arthur Evans yn geidwad Amgueddfa'r Ashmolean yn Rhydychen o 1884 hyd 1908, lle ymddiddorai mewn arian bath hynafol a seiliau hen wareiddiad Crete.
Fe'i cofir yn bennaf am ei waith archaeolegol arloesol yn cloddio safle Knossos, ar ynys Crete, prifddinas y Gwareiddiad Minoaidd, rhwng 1899 a 1935.
- Cerflun o Arthur Evans
- Evans yn 1939
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Evans, Joan, Time and Chance: The Story of Arthur Evans and His Forebears (Llundain: Longmans, Green & Co., 1943)
- MacGillivray, Joseph Alexander, Minotaur: Sir Arthur Evans and the Archaeology of the Minoan Myth (Efrog Newydd: Hill & Wang, 2000 (ISBN 0-224-04352-8); Llundain: Jonathan Cape, 2000 (ISBN 0-224-04352-8); Llundain: Pimlico, 2001 (clawr meddal, ISBN 0-7126-7301-6).
- ↑ Myres, J. L. (1941). "Arthur John Evans. 1851–1941" (yn en). Obituary Notices of Fellows of the Royal Society 3 (10): 940–968. doi:10.1098/rsbm.1941.0044.