Bayeux
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 12,659 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 7.1 km² |
| Uwch y môr | 32 ±1 metr, 67 ±1 metr, 53 metr |
| Yn ffinio gyda | Guéron, Monceaux-en-Bessin, Saint-Loup-Hors, Saint-Martin-des-Entrées, Saint-Vigor-le-Grand, Vaucelles, Vaux-sur-Aure |
| Cyfesurynnau | 49.2786°N 0.7039°W |
| Cod post | 14400 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Bayeux |
![]() | |

Dinas a commune yn département Calvados yn Normandi, gogledd-orllewin Ffrainc yw Bayeux. Mae'n enwog fel cartref Brodwaith Bayeux.
Saif Bayeux heb fod ymhell o'r arfordir, ychydig i'r gorllewin o ddinas Caen. Llifa Afon Aure trwy Bayeux.
Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, roedd yn un o'r dinasoedd olaf i bargau ym meddiant y Saeson yn Ffrainc. Bu Mathau Goch yn gapten ar y garsiwn yn y cyfnof yma. Ar 16 Mai, 1450, bu rhaid i Mathau ildio Bayeux. Cafodd ef a'i wŷr, ynghyd â channoedd o ferched a phlant, ganiatâd gan y Ffrancod i ymadael, ond heb eu harfau.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Bayeux yn un o'r rhannau cyntaf o Ffrainc i'w ryddhau o afael yr Almaen, ac ar 16 Mehefin 1944, yna y traddododd Charles de Gaulle ei araith bwysig gyntaf ar dir Ffrainc.
