Corfilgi
Gwedd
| Enghraifft o: | brîd o gi |
|---|---|
| Gwlad | Lloegr |
| Enw brodorol | Whippet |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/08626 |

Ci hela a rasio sy'n tarddu o Loegr yw'r Corfilgi,[1] y Milgi Bach[1] neu'r Wipet.[2] Croes rhwng y Milgi a daeargi neu sbaengi yw'r brîd hwn a ddatblygwyd yng nghanol y 19eg ganrif i gwrso ysgyfarnogod. Gall hefyd hela anifeiliaid bychain.[3]
Bu'r Corfilgi yn fychan o'r cychwyn, yn debyg i'r Milgi Seisnig, ac yn hwyrach cafodd y Milgi Eidalaidd ei gymysgu â'r brîd er mwyn rhoi golwg fain iddo. Mae ganddo gôt lefn a chwta, gan amlaf o liw llwyd, gwyn neu felyn. Mae ganddo daldra o 46 i 56 cm ac yn pwyso tua 13 kg. Gall redeg 56 km (35 mi) yr awr.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Geiriadur yr Academi, [whippet].
- ↑ wipet. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Awst 2016.
- 1 2 (Saesneg) whippet. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Awst 2016.