Neidio i'r cynnwys

Derwen blackjack

Oddi ar Wicipedia
{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/Nodyn:Taxonomy/Fagaceae|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}} |machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}} |machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}
Derwen blackjack
Derwen blackjack yn ystod y gaeaf Cross Timbers Lincoln County, Oklahoma
Statws cadwraeth

Diogel  (NatureServe)[2]
Dosbarthiad gwyddonol e
Unrecognized taxon (fix): Fagaceae
Genus: Quercus
Rhywogaeth: Q. marilandica
Enw deuenwol
Quercus marilandica
Muenchh.[3]
Delwedd:Dosbarthiad naturiol derwen blackjack map 1.png
Dosbarthiad naturiol derwen blackjack Quercus marilandica
Cyfystyron[4][5]
  • Quercus cuneata Wangenh.
  • Quercus dilatata Raf.
  • Quercus ferruginea F.Michx.
  • Quercus neoashei Bush
  • Quercus nobilis Mast.
Derwen Blackjack
Derwen blackjack yn ystod y gaeaf yn Cross Timbers yn Lincoln County, Oklahoma


Diogel  (NatureServe)[6]
Dosbarthiad gwyddonol Edit this classification
Teyrnas: Plantae
Cytrad: Tracheophytes
Cytrad: Angiosperms
Cytrad: Eudicots
Cytrad: Rosids
Trefn: Fagales
Teulu: Fagaceae
Genws: Quercus
Is-genws: Quercus subg. Quercus
Rhan: Quercus sect. Lobatae
Rhywogaeth:
Q. marilandica
Enw bionimaidd
Quercus marilandica

Dosbarthiad cyffredinol naturiol derwen blackjack Quercus marilndica.
Cyfystyron
  • Quercus cuneata Wangenh.
  • Quercus dilatata Raf.
  • Quercus ferruginea F.Michx.
  • Quercus neoashei Bush
  • Quercus nobilis Mast.

Derwen fechan yw Quercus marilandica, derwen blackjack, sy'n un o'r grŵp derw coch Quercus sect . Lobatae . Mae'n frodorol i ddwyrain a chanol yr Unol Daleithiau.

Coeden gollddail fechan sy'n tyfu i 15 medr o uchder yw'r Quercus marilandica, gyda rhisgl wedi hollti'n blatiau hirsgwar gyda holltau oren cul. Mae'r dail yn 7-10cm o hyd a llydan, ac yn nodweddiadol yn blaguro o waelod taprog i siâp cloch tri llabedog eang gyda dim ond mewnoliadau bas. Maent yn wyrdd tywyll ac yn sgleiniog uwchben, yn lwyd-wyrdd oddi tanynt, ac yn aml yn aros ynghlwm wrth y brigau trwy'r gaeaf ar ôl troi lliwiau o goch i frown yn yr hydref. Mae'r fesen yn fach, 12-20mm hir a 10-18mm o lydan; ac fel coed derw coch eraill, mae'n cymryd 18 mis i'r mes aeddfedu.

Gall derw blackjack yn y Cross Timbers, Oklahoma, Unol Daleithiau America dyfu i uchder o 15-18medr, ond anaml yn cyrraedd mwy na 12medr, gyda diamedr boncyff o 41cm. Mae'r dail o 10-25cm o hyd a thua'r un lled.

Dosbarthiad a chynefin

[golygu | golygu cod]

Gellir dod o hyd i'r dderwen blackjack o Long Island yn Efrog Newydd i Fflorida, i'r gorllewin cyn belled â Thecsas, Oklahoma, a Nebraska . Mae adroddiadau am ychydig o boblogaethau ynysig yn ne Michigan, ond mae'n ymddangos bod y rhain yn cynrychioli cyflwyniadau. [7]

Mae’r rhywogaeth yn tyfu mewn priddoedd gwael, tenau, sych, creigiog neu dywodlyd lle gall ychydig o blanhigion coediog eraill ffynnu, fel arfer ar dir isel, o lefel y môr hyd at tua 850medr. Mae rhai ffynonellau yn dweud nad oes ganddi'r ffurf hardd fel sydd i lawer o goed derw, ond serch hynny mae'n goeden werthfawr ar gyfer tyfu mewn safleoedd problemus. [8] Mae rhai yn dweud bod y goeden yn "anodd ond yn hyll", ond hefyd yn cael ei thanwerthfawrogi. [9] [10] Ar adegau mae'r goeden hyd yn oed wedi cael ei dileu er mwyn darparu lle i goed y tybir eu bod yn fwy gwerthfawr yn fasnachol. [11]

Weithiau mae'n goeden isdyfiant mewn clystyrau pinwydd ar fryniau tywodlyd yn ne-ddwyrain yr Unol Daleithiau. Ar hyd gwastadedd arfordirol New Jersey mae'r tebygolrwydd o ddod o hyd i'r rhywogaeth hon yn cynyddu mewn ardaloedd cymharol heulog, agored fel y rhai ger morfeydd heli arfordirol. Mae'n bodoli'n aml law yn llaw â derw ysgarlad a phost yn ogystal â phinwydd pigfain ; Ymhlith ei chymdeithion isdyfol mae'r Rhus copallinum, rhedynen ungoes, Comptoni peregrinia, a baewydden, a gellir dod o hyd iddynt cyn belled i'r gogledd â rhannau o Ohio [12] ac Efrog Newydd .

Mae amrywiad penodol, sef Quercus marilandica Münchhausen amr. ashei Sudworth, yn tyfu'n rhan mwyaf gorllewinol ei dosbarthiad yng ngogledd Tecsas, Oklahoma, hyd at de Kansas . Yn yr ardal hon, mae blackjack a derw post yn ffurfio ardal lled-safanna sy'n cynnwys stribedi coediog wedi'u cymysgu â llennyrch glaswellt y paith ar hyd ymyl dwyreiniol y Gwastadedd Mawr deheuol. Gelwir y lled-safanna hwn yn y Cross Timbers. [13] [14] [15] Ffurfiau prysgwydd o Q. marilandica sy'n dominyddu ar lawer o lennyrch cornfaen ynghyd â Q.<span typeof="mw:Entity" id="mwdQ">&nbsp;</span>stellata ar lwyfandir Ozark Arkansas.

Ecoleg

[golygu | golygu cod]

Weithiau mae derw blackjack yn croesrywio â derw arth ( Q. ilicifolia ), sy'n ffurfio croesryw a elwir yn Q. × brittonii .

Mae mes blackjack yn darparu bwyd ar gyfer ceirw cynffon wen a thwrci gwyllt . Fodd bynnag, gall blackjacks achosi gwenwyn asid tannig mewn gwartheg.

Defnyddiau

[golygu | golygu cod]

Mae pren yn ddwys iawn ac mae'n cynhyrchu fflam boeth pan yn llosgi, sydd yn ddefnyddiol dros ben ar gyfer barbeciwiau and stofiau llosg-bren. Beth bynnag,nid yw'r pren yn ddefnyddiol ar gyfer llefydd tân pren oherwydd gall y gwres tanbaid achosi i'r pren dasgu allan gwreichion a all achosi tannau tŷ.[16]

Yn draddodiadol, defnyddir pren blackjack fel tanwydd a phren mwg ar gyfer barbeciw yn Oklahoma .

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 Wenzell , K.; Kenny, L. (2015). Quercus marilandica. 2015. t. e.T194195A2303635. doi:10.2305/IUCN.UK.2015-4.RLTS.T194195A2303635.en.
  2. ↑ "NatureServe Explorer 2.0".
  3. ↑ Münchhausen, Otto von (1770). "Verzeichniß der Bäume und Stauden, welche in Deutschland fortkommen". Der Hausvater. 5. Hannover: Försters und Sohns Erben. tt. 253: diagnosis in Latin, description in German in Teutonic script.
  4. ↑ Nodyn:ThePlantList
  5. ↑ Nodyn:Tropicos
  6. ↑ "NatureServe Explorer 2.0".
  7. ↑ "Quercus marilandica Range Map" (PDF). United States Geological Survey. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 16 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 2008-03-05.
  8. ↑ Liming, Franklin G. (1 Mawrth 1942). "Blackjack Oak in the Missouri Ozarks". Journal of Forestry (Society of American Foresters) 40 (3): 249–252. http://www.ingentaconnect.com/content/saf/jof/1942/00000040/00000003/art00011?crawler=true.
  9. ↑ Klingaman, Gerald (22 Medi 2000). "Plant of the Week: Blackjack Oak". Extension News. University of Arkansas Division of Agriculture. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Medi 2021. Cyrchwyd 31 Hydref 2017.
  10. ↑ Nelson, John (12 Ionawr 2017). "Blackjack oak grows in hardscrabble habitat". Tallahassee Democrat. Tallahassee, Florida. Cyrchwyd 31 Hydref 2017.
  11. ↑ Clark, F. Bryan; Liming, Franklin G. (Rhagfyr 1953), Sprouting of Blackjack Oak in the Missouri Ozarks, Technical Paper No. 137, Division of Forest Management, Central States Forest Experiment Station, https://archive.org/details/sproutingofblack137clar
  12. ↑ "Blackjack Oak". What Tree Is It?. Ohio Public Library Information Network and The Ohio Historical Society. 1997. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-04. Cyrchwyd 2023-11-10.
  13. ↑ Oklahoma Biological Survey (2016). "Ancient Cross Timbers". University of Oklahoma. Cyrchwyd 31 Hydref 2017.
  14. ↑ Oklahoma Forestry Services. "Oklahoma's Forests > Oklahoma's Major Forest Types > Post Oak-Blackjack Forest". Oklahoma Department of Agriculture, Food, and Forestry. Cyrchwyd 31 Hydref 2017.
  15. ↑ Engle, David M. (18 Mawrth 1997). "Oak ecology". Stillwater, Oklahoma: Division of Agricultural Sciences and Natural Resources, Oklahoma State University. Cyrchwyd 31 Hydref 2017.
  16. ↑ Hatch, Stephan L.; Pluhar, Jennifer, gol. (1999). Texas Range Plants. College Station, Texas: Texas A&M University Press.