Neidio i'r cynnwys

Freya Stark

Oddi ar Wicipedia
Freya Stark
GanwydFreya Madeline Stark Edit this on Wikidata
31 Ionawr 1893 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mai 1993 Edit this on Wikidata
Asolo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • SOAS, Prifysgol Llundain
  • Coleg Bedford
  • Royal Holloway, Prifysgol Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, awdur teithlyfrau, ffotograffydd, awdur ysgrifau, dringwr mynyddoedd Edit this on Wikidata
PriodStewart Perowne Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Medal y Sefydlydd, Medal Mungo Park, Urdd Sant Ioan, Medal i Gofio am Burton, Dinasyddiaeth Anrhydeddus Asolo, Medal Aur Cymdeithas y Daearyddwyr Benywaidd Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Awdures o Loegr a Ffrainc oedd y Fonesig Freya Stark (31 Ionawr 1893 - 9 Mai 1993) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel fforiwr, awdur teithlyfrau ac ysgrifau, a ffotograffydd. Roedd llawer o'i theithiau yn y Dwyrain Canol ac Affganistan ond sgwennodd ambell fywgraffiad hefyd. Roedd ymhlith y 'gorllewinwyr gwyn' cyntaf i deithio drwy Anialwch Arabia.[1][2][3][4][5]

Cafodd ei geni ym Mharis a bu farw yn Asolo, Rhanbarth Veneto, yr Eidal.[6] Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Llundain, SOAS a Phrifysgol Llundain. [7][8]

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Astudio celf ym Mharias oedd ei rhieni pan gafodd ei geni. Roedd ei mam, Flora, yn Eidales o dras Pwylaidd ac Almaeneg ac roedd ei thad, Robert, yn arlunydd Saesneg o Ddyfnaint. Treuliodd Stark lawer o'i phlentyndod yng ngogledd yr Eidal, gan fod cyfaill ei thad, Pen Browning, yn berchen tri thŷ yn Asolo. Trigai ei nain (ar ochr ei mam) yn Genoa.[9][10]

Roedd priodas ei rhieni yn anhapus o'r cychwyn cyntaf, a gwahanodd y ddau pan oedd Freya'n blentyn ifanc. Honnodd bywgraffydd Stark, Jane Fletcher Geniesse — wrth ddyfynnu cefnder Freya, Nora Stanton Blatch Barney — bod tad biolegol Freya yn "ddyn ifanc da ei naws o deulu amlwg yn New Orleans" o'r enw Obediah Dyer. Nid oes dystiolaeth i hyn fodd bynnag, ac ni wyddys a oedd Stark ei hun yn ymwybodol o'r honiad; ni wnaeth unrhyw gyfeiriad ato yn unrhyw un o'i ysgrifau, gan gynnwys ei hunangofiant.[11]

Ar ei nawfed pen-blwydd, derbyniodd Freya gopi o Un Mil a Un Noson (One Thousand and One Nights), a chafodd ei hudo gan y Dwyrain. Roedd hi'n aml yn sâl tra'r oedd yn ifanc, ac felly'n gaeth i'r tŷ, ac oherwydd hyn, darllenodd lawer. Roedd wrth ei bodd yn darllen Ffrangeg, yn arbennig Dumas, a dysgodd Ladin ei hun. Pan oedd hi'n 13 oed cafodd ddamwain mewn ffatri yn yr Eidal, pan daliwyd ei gwallt mewn peiriant. Rhwygwyd croen ei phen a chafodd ei chlust dde ei thorri.[12] Bu'n rhaid iddi dreulio pedwar mis yn cael impiadau croen yn yr ysbyty, a gadawyd ei hwyneb wedi'i anffurfio. Am weddill ei hoes, byddai'n gwisgo hetiau neu fonedau i orchuddio'i chreithiau.[13]

Pan oedd hi'n dri-deg oed, dewisodd Freya astudio ieithoedd yn y brifysgol. Gobeithiaid ddianc o'i bywyd caled fel ffermwr blodau yng ngogledd yr Eidal. Awgrymodd ei hathrawes y dylai astudio Islandeg, ond dewisodd astudio Arabeg ac yn ddiweddarach Perseg. Astudiodd yng Ngholeg Bedford, Llundain ac yn Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd (SOAS), y ddau ym Mhrifysgol Llundain.[12]

Teithio

[golygu | golygu cod]

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, hyfforddodd Stark fel VAD (Voluntary Aid Detachment) a gwasanaethodd gydag uned ambiwlans y Groes Goch Brydeinig yn y lle cyntaf yn y Villa Trento ger Udine. Roedd ei mam wedi aros yn yr Eidal ac wedi dod yn bartner mewn busnes; priododd ei chwaer Vera y cyd-berchennog. Yn 1926, bu farw Vera ar ôl camesgoriad (colli plentyn). Yn ei hysgrifau, eglurodd Freya nad oedd Vera'n gallu byw bywyd ar ei thelerau ei hun, ac na fyddai'n gwneud yr un peth. Yn fuan wedyn, dechreuodd deithio.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Baghdad Sketches. (1932) Free to read
  • The Valleys of the Assassins and Other Persian Travels. (1934) Free to read
  • The Southern Gates of Arabia A Journey in the Hadhramaut. (1936)
  • Seen in the Hadhramaut (1938)
  • A Winter in Arabia.(1940) Free to read
  • Letters from Syria.(1942) Free to read
  • East is West.(1945), published in US as Arab Island: The Middle East, 1939–1943. Free to read
  • Perseus in the Wind.(1948) Free to read
  • Traveller's Prelude: Autobiography 1893–1927. (1950) Free to read Registration required.
  • Beyond Euphrates: Autobiography 1928–1933.(1951) Free to read
  • The Coast of Incense: Autobiography 1933–1939. (1953) Free to read Registration required.
  • Ionia, A Quest.(1954) Free to read
  • The Lycian Shore.(1956) Free to read
  • Alexander's Path: From Caria to Cilicia. (1958) Free to read
  • Riding to the Tigris. (1959)
  • Dust in the Lion's Paw. Autobiography 1939–1946. (1961) Free to read
  • Rome on the Euphrates: The Story of a Frontier. (1966)
  • The Zodiac Arch. (1968)
  • Space, Time and Movement in Landscape. (1969)
  • The Minaret of Djam: An Excursion into Afghanistan. (1970)
  • Turkey: A Sketch of Turkish History. (1971)
  • Letters. (1974–82)
  • Letters. (1974–82)
  • A Peak in Darien. (1976)
  • The Journey's Echo: Selected Travel Writings. (1988)
  • Over the Rim of the World: selected letters. (1988)

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Medal y Sefydlydd (1942), Medal Mungo Park (1935), Urdd Sant Ioan, Medal i Gofio am Burton (1934), Dinasyddiaeth Anrhydeddus Asolo (1946), Medal Aur Cymdeithas y Daearyddwyr Benywaidd (1987)[14][15][16][17] .

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Cyffredinol: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 120262256, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 LIBRIS, 1.0, Llyfrgell Genedlaethol Sweden, 26 Mawrth 2018, Libris-URI fcrvzjpz2tftrbg, Wikidata Q1798125, https://libris.kb.se/, adalwyd 24 Awst 2018
  2. ↑ Dyddiad geni: "Freya Stark". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Stark". SNAC. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Stark". Find a Grave. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Stark". FemBio database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Madeline Stark". Brockhaus Enzyklopädie. "Freya Stark". AlKindi. A Historical Dictionary of British Women (yn Saesneg) (arg. 2nd). Routledge. 17 Rhagfyr 2003. ISBN 978-1-85743-228-2. OL 3319364M. Wikidata Q124350773. Ehsan Yarshater; Nicholas Sims-Williams; Ahmad Ashraf et al., eds. (1982) (yn en), Encyclopædia Iranica, Unol Daleithiau America: Prifysgol Columbia, ISSN 2330-4804, OCLC 59605200, Iranica ID stark-freya, Wikidata Q1139550, http://www.iranicaonline.org, adalwyd 23 Medi 2025
  3. ↑ Dyddiad marw: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 120262256, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 "Freya Stark". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Stark". SNAC. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Stark". Find a Grave. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Stark". FemBio database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Freya Madeline Stark". Brockhaus Enzyklopädie. "Freya Stark". AlKindi. A Historical Dictionary of British Women (yn Saesneg) (arg. 2nd). Routledge. 17 Rhagfyr 2003. ISBN 978-1-85743-228-2. OL 3319364M. Wikidata Q124350773. Ehsan Yarshater; Nicholas Sims-Williams; Ahmad Ashraf et al., eds. (1982) (yn en), Encyclopædia Iranica, Unol Daleithiau America: Prifysgol Columbia, ISSN 2330-4804, OCLC 59605200, Iranica ID stark-freya, Wikidata Q1139550, http://www.iranicaonline.org, adalwyd 23 Medi 2025
  4. ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014 Ehsan Yarshater; Nicholas Sims-Williams; Ahmad Ashraf et al., eds. (1982) (yn en), Encyclopædia Iranica, Unol Daleithiau America: Prifysgol Columbia, ISSN 2330-4804, OCLC 59605200, Iranica ID stark-freya, Wikidata Q1139550, http://www.iranicaonline.org, adalwyd 23 Medi 2025
  5. ↑ Man claddu: (yn en) Find a Grave, Wikidata Q63056, https://www.findagrave.com/
  6. ↑ Freya Stark obituary Archifwyd 2020-08-29 yn y Peiriant Wayback, independent.co.uk; accessed 13 Ebrill 2016.
  7. ↑ Galwedigaeth: Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 1022, OL2727330W, Wikidata Q18328141 Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 1022, OL2727330W, Wikidata Q18328141 Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 1022, OL2727330W, Wikidata Q18328141 (yn nl) RKDartists, dynodwr RKDartists 326575, Wikidata Q17299517, http://www.rkd.nl/en/explore/artists, adalwyd 13 Rhagfyr 2025 Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 1022, OL2727330W, Wikidata Q18328141
  8. ↑ Anrhydeddau: Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 1022, OL2727330W, Wikidata Q18328141 Y Gymdeithas Ddaearyddiaeth Frenhinol (2022) (yn en), Gold Medal Recipients, Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Wikidata Q61782217, https://www.rgs.org/CMSPages/GetFile.aspx?nodeguid=64c1cdb4-2f4b-44a3-9e3c-695983da880f&lang=en-GB "Awards, Prizes & Visiting Fellowships – Royal Asiatic Society". Cyrchwyd 4 Awst 2018. http://www.iswg.org/awards/past-gold-medal-recipients.
  9. ↑ Stark (1950), tt. 2–4
  10. ↑ Stark (1950), tt.30–64
  11. ↑ Geniesse, JF. Passionate Nomad: The Life of Freya Stark. Modern Library (2001), tt. 363–69; ISBN 0375757465
  12. 1 2 Pierpont, Claudia Roth (2011-04-11). "East Is West" (yn Saesneg). ISSN 0028-792X. Cyrchwyd 2019-05-18.
  13. ↑ Stark (1950), t. 84
  14. ↑ Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 1022, OL2727330W, Wikidata Q18328141
  15. ↑ Y Gymdeithas Ddaearyddiaeth Frenhinol (2022) (yn en), Gold Medal Recipients, Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Wikidata Q61782217, https://www.rgs.org/CMSPages/GetFile.aspx?nodeguid=64c1cdb4-2f4b-44a3-9e3c-695983da880f&lang=en-GB
  16. ↑ "Awards, Prizes & Visiting Fellowships – Royal Asiatic Society". Cyrchwyd 4 Awst 2018.
  17. ↑ http://www.iswg.org/awards/past-gold-medal-recipients.