Neidio i'r cynnwys

Lars von Trier

Oddi ar Wicipedia
Lars von Trier
GanwydLars Trier Edit this on Wikidata
30 Ebrill 1956 Edit this on Wikidata
Kongens Lyngby Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth Denmarc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ffilm Genedlaethol Denmarc Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, sinematograffydd, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBreaking the Waves, Europa, The Kingdom, Dancer in the Dark, Dogville, Manderlay Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAndrei Tarkovsky Edit this on Wikidata
MudiadDogme 95 Edit this on Wikidata
TadFritz Michael Hartmann Edit this on Wikidata
PriodCæcilia Holbek Trier Edit this on Wikidata
PlantSelma Sunniva Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Dannebrog, Gwobr Konrad Wolf, Gwobr Anrhydeddus y Ddrama, Denmarc, Allen Award, Gwobr Sonning, Gwobr Ewrop i'r Ffilm Orau, Gwobr Ewropeaidd y Beirniad Ffilm, Gwobr Ewrop i'r Ffilm Orau, European Film Award - People's Choice Award for Best Director, European Film Academy Achievement in World Cinema Award, Gwobr Ewrop i'r Ffilm Orau, Statens Kunstfonds hædersydelse, Jury Prize, Cannes Film Festival Grand Prix, Palme d'Or, Gwobr Cesar i'r Ffilm Estron Gorau, Goya Award for Best European Film, Kjeld Abell Prize, Gwobr Anrhydeddus Bodil Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr ffilm arloesol ac ysgrifennwr sgriptiau o Ddenmarc yw Lars von Trier (ganwyd 30 Ebrill 1956). Mae'n un o sylfaenwyr y mudiad ffilm avant-garde Dogme 95. Mae wedi bod yn gwneud ffilmiau ers yn 11 mlwydd oed. Yn ddioddefwr o iselder a nifer o ffobia yn cynnwys ofn hedfan sydd yn meddwl bod ei ffilmiau i gyd yn cael eu gwneud yn agos i Ddenmarc – hyd yn oed y rhai fel Dancer in the Dark sydd wedi'u lleoli yn Unol Daleithiau America. Bydd yn gyrru yr holl ffordd i lefydd fel Cannes, Ffrainc.

Dywedodd mewn un cyfweliad "Mae ofn arni bob dim mewn bywyd heblaw gwneud ffilmiau."[1]

Mae von Trier yn enillydd y wobr Palm D'Or yng Ngŵyl Ffilm Cannes ond hefyd wedi'i wneud yn persona non-grata gan yr un gŵyl.

Dyddiau cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Lars Trier (heb y 'von') i deulu rhyddfrydol eu hagweddau a oedd yn meddwl bod disgyblu plant yn adweithiol. Roedd rhieni Lars yn noethlymunwyr brwd a'i fam yn gomiwnydd.[2]

Datgelodd ei fam ar ei gwely angau nad oedd y dyn roedd Lars yn credu oedd ei dad yn dad biolegol iddo. Bu'n ganlyniad 'affair' gyda'i bos.

Dechreuodd Lars wneud ei ffilmiau cyntaf yn 11 mlwydd oed gyda chamera Super-8 a datblygodd ddiddordeb mawr yn ffilm yn yr ysgol uwchradd.[3]

Yn 1979 dechreuodd astudio yn Ysgol Ffilm Genedlaethol Denmarc. Ei ffrindiau yn ei alw yn 'von Trier' fel tynnu coes oherwydd ei agweddau haerllug, mae 'von' yn gysylltiedig ag enwau crach neu frenhinol Almaeneg. Yn ddiweddarach newidiodd ei enw i 'von Trier' fel teyrnged i'r cyfarwyddwyr Erich von Stroheim a Josef von Sternberg.[4]

Tra'n yr ysgol ffilm wnaeth Nocturne a The Last Detail a enillodd wobrau ac yn 1983 graddiodd gyda'r ffilm Images of Liberation, a ddaeth y ffilm Ddaneg gyntaf gan fyfyrwyr i gael ei rhyddhau'n fasnachol.

Cyfarwyddwr ffilm

[golygu | golygu cod]
LarsVonTrier

Ar ôl iddo raddio, dechreuodd waith ar y ddrama Forbrydelsens element (1984) a enillodd wobr dechnegol yng Ngŵyl Ffilm Cannes. Roedd ei ffilm ganlynol Epedemic yn ffug-wyddonol am bla ac yn cynnwys dau gynhyrchydd ffilm (a chwaraewyd gan von Trier a'r ysgrifennwr sgriptiau Niels Vørsel) yn paratoi'r ffilm.[5]

Ym 1991 wnaeth y cyntaf yn y triawd Ewrop gyda Europa (Zentropa yn yr Unol Daleithiau) a enillodd y wobr yng Ngŵyl Ffilm Cannes. Wrth gasglu'r wobr wnaeth von Trier arwydd gyda'i fys tuag at y beirniad a rhuthrodd oddi ar y llwyfan.

Ym 1992 bu'n un o sylfaenwyr cwmni 'Zentropa' er mwyn cael mwy o reolaeth ac annibyniaeth dros ei waith. Bu'r cwmni'n gyfrifol am nifer o ffilmiau a chyfresi teledu ar wahân i rai von Trier yn cynnwys ffilmiau pornograffig fel Constance (1998), Pink Prison (1999), HotMen CoolBoyz (2000) ac All About Anna (2005).[3]

Er mwyn gwneud arian i'r cwmni cynhyrchodd The Kingdom (Riget, 1994) a The Kingdom II (Riget II, 1997), cyfresi teledu am ddigwyddiadau rhyddfrydol mewn ysbyty yn Copenhagen.

Ym 1995 ysgrifennodd Lars von Trier a Thomas Vinterberg maniffesto radicalaidd am fudiad ffilm newydd o'r enw Dogme 95. Bwriad y maniffesto oedd i 'buro' y broses o wneud ffilm i gael gwared ag effeithiau a thechnoleg ddrud i ganolbwyntio ar stori a pherfformiad.

Mae'r maniffesto yn cynnwys rheolau "Addewidion Diweirdeb" fel:

  • Rhaid ffilmio ar leoliad. Ni chaniatäer dod â setiau neu bropiau
  • Ni chaniatäer cynhyrchu sain ar wahân i'r ffilmio, ni ddefnyddir cerddoriaeth oni bai ei bod yn digwydd wrth i'r golygfeydd cael eu ffilmio.
  • Rhaid defnyddio camera llaw
  • Rhaid i'r ffilm bod yn lliw llawn a heb golau arbennig neu ffilterau
  • Ni chaniatäer 'action' fel trais, llofruddiaethau neu arfau
  • Ni chaniatäer credyd i'r cyfarwyddwr.

Ymunodd nifer o gyfarwyddwyr eraill y prosiect a gwnaethpwyd sawl ffilm yn ôl y rheolau fel Breaking the Waves (1996) a The Idiots (1998). Cafodd ffilmiau steil Dogma cryn sylw a dylanwad ar wneuthurwyr ffilm a chroesawyd fel ymateb yn erbyn eithafion blockbusters Hollywood drudfawr.

Yn 2000 torrodd von Trier gyda rheolau Dogma i wneud ffilm gerddorol gyda Björk – Dancer in the Dark ac wedi comedi yn yr iaith Ddaneg Boss of it all.

Yn 2009 wnaeth Antichrist gyda Willem Dafoe a Charlotte Gainsbourg fel cwpl yn ceisio adfer eu perthynas trwy fynd ar wyliau mewn caban unig yn y coed.

Ymddangosodd Charlotte Gainsbourg eto yn ei ffilmiau Melancholia (2011) a Nymphomaniac (2013).

Fel nifer o ffilmiau eraill von Trier mae'r Antichrist, Melancholia a Nymphomaniac yn archwilio cymeriadau gyda phroblemau iechyd meddwl ac yn cynnwys golygfeydd rhiw 'naturiol'. Mae von Trier wedi cyfaddef ei fod yn dioddef o nifer o afiechydon meddyliol sydd yn aml wedi'u hatal rhag cyflawni anghenion gwaith a chymdeithasol.[6]

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Jan Lumholdt, Lars von Trier: Interviews (University Press of Mississippi, 2003), t.114
  2. ↑ Nicodemus, Katja (10 Tachwedd 2005). "Lars von Trier, Katja Nicodemus: 'I am an American woman' – signandsight". Die Zeit. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Medi 2012. Cyrchwyd 14 October 2010.. "Dw i'n dod o deulu o noethlymunwyr comiwnyddol. Roeddwn i'n cael gwneud neu beidio â gwneud beth bynnag roeddwn i'n ei hoffi. Doedd gan fy rhieni ddim diddordeb a oeddwn i'n mynd i'r ysgol neu'n meddwi ar win gwyn. Ar ôl plentyndod o'r fath, mae rhywun yn chwilio am gyfyngiadau yn ei fywyd ei hun."
  3. 1 2 "The Tomb: Lars von Trier Interview". Time Out. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Medi 2012. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2010.
  4. ↑ Peter Cowie, Variety International Film Guide 1996 (Llunain: Hamlyn, 1995), t.40
  5. ↑ Goodfellow, Melanie; Wiseman, Andreas (19 Ebrill 2013). "Lars von Trier welcome back at Cannes Film Festival". Screen Daily. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2013.
  6. ↑ Brian Michael Goss, Global auteurs: politics in the films of Almodóvar, von Trier, and Winterbottom (Bern: Peter Lang, 2009), t.118