Neidio i'r cynnwys

Llyn Zarivar

Oddi ar Wicipedia
Llyn Zarivar
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Iran Iran
Cyfesurynnau35.53°N 46.13°E Edit this on Wikidata
Hyd5 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddZagros Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar Edit this on Wikidata
Manylion

Llyn yng ngorllewin Iran yw Llyn Zarivar neu Zrewar (Cwrdeg: Zrêwar neu Zrêbar, Perseg: زریوار Zarivar).

Lleolir y llyn yn Nhalaith Cwrdistan yng ngorllewin Iran, ger y ffin â Twrci. Ei hyd yw 5 km a'i led mwyaf yw 1.6 km. Mae'n gorwedd i'r gorllewin o dref Marivan. Mae'r dŵr yn groyw am fod y llyn yn gorwedd 1,285 medr i fyny yn y mynyddoedd. Mae Afon Zrêbar yn llifo o'r llyn.

Mae Llyn Zarivar yn boblogaidd gan dwristiaid yn Iran a cheir sawl chwedl werin Cwrdaidd amdani. Cwrdiaid ethnig yw'r mwyafrif o'r bobl sy'n byw o gwmpas y llyn, sy'n gorwedd yn nhiriogaeth hanesyddol Cwrdistan.