Lu Xun
Gwedd
| Lu Xun | |
|---|---|
| Ffugenw | Lu Xun, 豫才, 豫山, 豫亭 |
| Ganwyd | 周樹人 25 Medi 1881 Shaoxing |
| Bu farw | 19 Hydref 1936 Shanghai |
| Man preswyl | Shanghai |
| Dinasyddiaeth | Brenhinllin Qing, Gweriniaeth Tsieina |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | awdur ysgrifau, bardd, beirniad llenyddol, Esperantydd, cyfieithydd, nofelydd, critig, ysgrifennwr, awdur storiau byrion |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | The True Story of Ah Q, A Madman's Diary, Panghuang, Kong Yiji, Old Tales Retold, Call to Arms, Picking the morning flower in the evening, A Madman's Diary, Panghuang, A Brief History of Chinese Fiction |
| Arddull | traethawd |
| Mudiad | New Culture Movement |
| Tad | Zhou Boyi |
| Priod | Zhu An, Xu Guangping |
| Partner | Xu Guangping |
| Plant | Zhou Haiying |
| Gwobr/au | 100 heroes and model figures who have made outstanding contributions to the founding of New China |
| llofnod | |
Ffugenw Zhou Shuren (Tsieineg syml: 周树人; Tsieineg traddodiadol: 周樹人) oedd Lu Xun (Tsieineg syml: 鲁迅; Tsieineg traddodiadol: 魯迅) neu Lu Hsün (Wade-Giles) (25 Medi 1881 – 19 Hydref 1936). Roedd yn un o brif lenorion Tsieina yn ystod yr 20g. Fe'i ystyrir yn sylfaenydd llenyddiaeth Tsieineg modern, ac ysgrifennodd mewn baihua (白話) (iaith lafar) yn ogystal â Tsieineg clasurol. Ysgrifennai straeon byrion yn ogystal â bod yn olygydd, cyfieithydd, beirniad, traethodydd a bardd. Yn ystod y 1930au, ef edd pennaeth y Gynghrair Tsieineaidd o Ysgrifenwyr Adain-Chwith yn Shanghai.