Nevenoe
| Nevenoe | |
|---|---|
"Llw Nevenoe". Darlun gan James Joseph Jacques Tissot (1836–1902) yn Barzaz Breiz. | |
| Ganwyd | c. 800 Armorica |
| Bu farw | 7 Mawrth 851 Vendôme |
| Dinasyddiaeth | Kingdom of Brittany |
| Galwedigaeth | teyrn |
| Plant | Erispoe |
Roedd Nevenoe, Ffrangeg: Nominoë, (bu farw 7 Mawrth 851), yn frenin cyntaf Llydaw o 826 hyd ei farwolaeth. Yn ddiweddarach newidiodd y llinach eu teil i Ddugiaid Llydaw yn hytrach na galw eu hunain yn frenhinoedd. Gelwir ef yn Tad ar Vro gan genedlaetholwyr Llydaw.
Cafodd ei enwi yn Ddug Llydaw gan Louis Dduwiol, Brenin y Ffranciaid. Parhaodd Nevenoe yn deyrngar i Louis hyd nes i Louis farw yn 841. Dilynwyd ef gan ei fab, Siarl Foel, ond nid oedd y berthynad rhyngddo ef a Nevenoe cystal. Gwrthododd Nevenoe dyngu llŵ o ffyddlondeb i'r brenin newydd, a chyhoeddodd annibyniaeth Llydaw. Ymosododd Siarl ar Lydaw, ond gorchfygwyd ef ym Mrwydr Ballon, ac yn 846 bu raid iddo gydnabod annibyniaeth Llydaw.
Bu Nevenoe farw yn 851, a dilynwyd ef gan ei fab, Erispoe.
| Rhagflaenydd: dim |
Brenin Llydaw 845–851 |
Olynydd: Erispoe |