Neidio i'r cynnwys

Noëpe

Oddi ar Wicipedia

Ynys yn ngorllewin Cefnfor yr Iwerydd yw Noëpe[1], neu Martha's Vineyard, sydd ym meddiant Massachusetts, Unol Daleithiau America.

Mae llwyth Wampanoag yn byw yn Aquinnah yn ne-orllewin yr ynys. Ers y 17eg ganrif, mae Saeson (Americanwyr wedyn) wedi ymgartrefu yn nhrefi Edgartown, Oak Bluffs, Vineyard Haven, West Tisbury, a Chilmark yn raddol, er hawliau parhaol y brodorion i'r ynys.

Efo poblogaeth fyddar sylweddol yn yr 19eg ganrif, mi ddysgodd y rhan fwyaf o ynyswyr y pryd iaith arwyddion arbennig, Iaith Arwyddion Noëpe. Mi adnabyddir y gymdeithas ddwyieithog a ddatblygodd yn sgil hynny fel "paradwys i'r rhai byddar" yn rhyngwladol, er bod llawer o enghreifftiau eraill hefyd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Banks, Charles. "The History of Martha's Vineyard". history.vineyard.net/. Dukes County History.