Prifysgol Indiana
| Math | system o brifysgolion taleithiol, sefydliad addysgiadol, ysgol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 39.1667°N 86.5°W |
| Niferoedd | 79,138 |
![]() | |
Prifysgol gyhoeddus yn nhalaith Indiana, Unol Daleithiau America, yw Prifysgol Indiana (Saesneg: Indiana University) sydd yn cynnwys y prif gampws yn Bloomington (Prifysgol Indiana Bloomington) a safleoedd eraill yn Gary (campws y Gogledd-orllewin), South Bend, Kokomo, New Albany (De-ddwyrain), a Richmond (Dwyrain). Yn ogystal, cynigir graddau academaidd gan Brifysgol Indiana gan golegau mewn cydweithrediad â Phrifysgol Purdue yn Fort Wayne, Indianapolis, a Columbus.
Pasiwyd deddf gan Gynulliad Cyffredinol Indiana ym 1820 i sefydlu Coleg Diwinyddol Indiana, a agorai ym 1824. Fe'i ail-enwyd yn Goleg Indiana ym 1828, a chafodd ei dyrchafu'n brifysgol ym 1838.[1] Derbyniwyd merched am y tro cyntaf ym 1867, ac ers hynny bu pob cyfadran yn agored i fyfyrwyr o'r ddau ryw.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Indiana University. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2021.
