Neidio i'r cynnwys

Rhinwedd

Oddi ar Wicipedia
Rhinwedd
Enghraifft o:cysyniad, patrwm ymddygiad, math o werth Edit this on Wikidata
Mathmoral quality Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebvice, pechod Edit this on Wikidata
Rhan otermau seicoleg Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0d7lt edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF3090 edit this on wikidata
QuoraVertu edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Priodoledd ddaionus neu nodwedd ragorol, yn enwedig o safbwynt moesegol neu ddiwinyddol, yw rhinwedd.[1] Roedd syniad y bywyd rhinweddol yn sail i ddamcaniaeth foesol Aristotlys, ac mae ffurfiau ar foeseg rinweddol yn ddylanwadol hyd heddiw. Yn y traddodiad athronyddol a chrefyddol Ewropeaidd, ceir y pedair prif rinwedd sy'n tarddu o'r hen Roegiaid: pwyll, cyfiawnder, dirwest a chryfder neu nerth enaid. Sonir Cristnogion am dair rinwedd ychwanegol – ffydd, gobaith a chariad – gan ffurfio'r saith rinwedd a gyferbynnir â'r saith pechod marwol.[2] Ym maes athroniaeth wleidyddol, sonir am y rhinwedd ddinesig: yr agwedd a'r tymer sy'n addas wrth weithredu'r drefn wleidyddol yn effeithiol.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑  rhinwedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
  2. ↑ (Saesneg) virtue (in Christianity). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
  3. ↑ (Saesneg) civic virtue. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.