Neidio i'r cynnwys

Theosoffi

Oddi ar Wicipedia

Mudiad ocwlt neu athroniaeth grefyddol yw theosoffi[1] neu theosoffiaeth[2] sy'n haeru bod modd ennill gwybodaeth ddwyfol drwy ymarferion cyfriniol megis perlewyg ysbrydol neu sythwelediad uniongyrchol. Tarddai yn y 19g ar seiliau dysgeidiaethau hynafol Gnostigiaeth a Neo-Blatoniaeth. Sefydlwyd y Gymdeithas Theosoffig yn Efrog Newydd ym 1875 gan y Rwsiad Helena Blavatsky.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑  theosoffi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2017.
  2. ↑  theosoffiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2017.
  3. ↑ (Saesneg) theosophy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am yr ocwlt. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.