Tost Ffrengig
| Math | Tost, pwdin |
|---|---|
| Deunydd | bara, llaeth, wy, siwgr |
| Gwlad | Ffrainc |
| Rhan o | Brazilian cuisine, coginiaeth Ffrainc, cuisine of the United States, Hungarian cuisine |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/017z01 |
| Quora | French-toast |
Tost Ffrengig,[1] neu bara wy a elwir hefyd yn ryngwladol yn pain perdu[2] ("bara coll" yn Ffrangeg gan ei fod yn defnyddio bara oedd yn 'golledig' i fwyta'n ffresh) yw pryd sy'n cynnwys bara wedi'i socian mewn wyau wedi'u curo ac yna'n cael ei ffrio. Gellir cael fersiwn sawrus sy'n cynnwys ffrio bara wedi ei drochi mewn wy a llaeth, neu fersiwn melys a all gynnwys powdr siwgr, mêl, surop, ffrwythau a hufen.[3]
Er gwaethaf yr enw, gellid dadlau nad ydy'r 'Tost Ffrengig' yn dost go iawn gan fod y bara heb ei dostio gyntaf na chael ei grasu o flaen fflam tân agored.
Enwau a tharddiadau
[golygu | golygu cod]Mae'r sôn cyntaf yn ymddangos yn ryseitiau y Rhufeiniad Apicius tua'r 2g; roedd y rysáit yn cynnwys socian bara mewn llaeth yn hytrach nag wyau ac ni ddarparodd enw penodol, gan gyfeirio ato fel aliter dulcia ("pryd melys arall") yn unig.[4]
Roedd y pryd yn adnabyddus yn Ewrop ganoloesol o dan enwau fel suppe dorate a soupys yn dorye. Er enghraifft, darparodd Maestro Martino da Como rysáit ar ei gyfer. Yn aml, gweinid tost Ffrengig ochr yn ochr â helgig a chigoedd eraill. Yn y cyd-destun hwn, roedd y gair zuppa (cawl) yn cyfeirio at fara wedi'i socian mewn hylif.[5]
Mae rysáit Almaeneg o'r 14g yn defnyddio'r enw Arme Ritter ("marchogion tlawd"),[6][7] term a geir hefyd yn Saesneg (poor knighs) ac mewn ieithoedd Gogledd Germanaidd.[8] Yn yr un ganrif, cyflwynodd Taillevent y rysáit fel tostées dorées.[9]
Roedd ryseitiau Saesneg o'r 15g hefyd ar gyfer pain perdu.[6][10][11]
Mae termau Awstriaidd a Bafaraidd ar gyfer y saig yn cynnwys pafese neu pofese, sy'n deillio o zuppa alla pavese, cyfeiriad at ddinas Pavia yn yr Eidal.[12]
Paratoi a gweini
[golygu | golygu cod]
Mae tafelli o fara yn cael eu socian neu eu trochi mewn wyau wedi'u curo — yn aml wedi'u cymysgu â llaeth neu hufen — y gellir ychwanegu siwgr, sinamon, cneuen yr India (nytmeg) a fanila ato. Yna cânt eu ffrio ar y ddwy ochr nes eu bod wedi brownio. Argymhellir hen fara, gan ei fod yn amsugno'r cymysgedd wyau'n well heb ddisgyn yn ddarnau.[13]
Gellir gweini'r sleisys wedi'u gorchuddio â siwgr powdr neu gyda thopins melys fel jam, mêl, ffrwythau (fel mefus neu fafon), neu surop masarn, neu eu gwneud yn sawrus gyda chetshup a sawsiau eraill.
Fersiynau eraill
[golygu | golygu cod]Gellir socian y bara mewn llaeth yn unig, gyda'r wyau'n cael eu hychwanegu'n ddiweddarach.[14]
Gellir socian y bara mewn hylifau eraill — fel gwin, dŵr rhosyn, neu sudd oren — naill ai cyn neu ar ôl coginio.[15][16]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Tost Ffrengig gyda mêl". LoveFoodHateWaste. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2026.
- ↑ Trésor de la Langue Française Informatisé s.v. pain
- ↑ Beckett, Fiona (18 September 2010). "Student cookbook: French toast (a.k.a. eggy bread)". The Guardian. Cyrchwyd 13 December 2012.
- ↑ (Saesneg) Joseph Dommers Vehling, trans., Apicius: Cookery and Dining in Imperial Rome, Book VII, chapter 13, recipe 296 full text at Gutenberg
- ↑ (Saesneg) Odile Redon, et al., The Medieval Kitchen: Recipes from France and Italy, 2000, p. 207f
- 1 2 Koerner, Brendan. "Is French Toast Really French?". Slate.com. Cyrchwyd 6 Ebrill 2015.
- ↑ Grimm, Jacob and Wilhelm. Deutsches Wörterbuch, dyfynir Buch von guter Spyse.
- ↑ Oxford English Dictionary, 3rd ed., 2006, s.v. 'poor' S3
- ↑ Pichon, Jérôme; Vicaire, Georges (1892). Le Viandier de Guillaume Tirel dit Taillevent. t. 262.
- ↑ Austin, T. Two 15th-century Cookery-books, 1888, che cita 1450 ricette, citato nel Oxford English Dictionary
- ↑ Davidson, Alan; Jaine, Tom (2006). The Oxford Companion to Food. Oxford University Press. t. 102. ISBN 0-19-280681-5.
- ↑ Ulrich Ammon, Variantenwörterbuch des Deutschen: die Standardsprache in Österreich, der Schweiz und Deutschland sowie in Liechtenstein, Luxemburg, Ostbelgien und Südtirol, 2004, ISBN 3110165759, p. 552
- ↑ "French Toast: invenzione americana?". Cyrchwyd 5 Ionawr 2016.
- ↑ Compleat Cook (1659) come citato nell'OED
- ↑ (Saesneg) John Ayto, The Diner's Dictionary: Word Origins of Food and Drink, ISBN 0199640246, p. 142
- ↑ (Saesneg) Adam Islip, A Dictionarie [sic] of the French and English Tongues, 1611, full text
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Tost Ffrengig gyda Mêl - rysáit ar wefan Love Food Hate Waste