Lilongwe
Gwedd
| Math | dinas, dinas fawr |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Afon Lilongwe |
| Poblogaeth | 989,318 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Taipei |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 727.79 km² |
| Uwch y môr | 1,050 ±1 metr |
| Gerllaw | Afon Lilongwe |
| Cyfesurynnau | 13.9864°S 33.7681°E |
![]() | |
Prifddinas Malawi yw Lilongwe. Mae ganddi boblogaeth o tua 597,619 (cyfrifiad 2003). Mae'n gorwedd yng nghanolbarth y wlad ar lannau Afon Lilongwe, ger y ffin rhwng Malawi, Mosambîc, a Sambia, ar yr M1, prif draffordd y wlad.
Dechreuodd Lilongwe fel pentref bychan ar lan Afon Lilongwe, a ddaeth yn ganolfan weinyddol yng nghyfnod rheolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig ar y wlad. Tyfodd i ddod yn ddinas ail fwyaf Malawi. Yn 1974, symudwyd prifddinas y wlad o Zomba i Lilongwe. Ond er mai Lilongwe yw'r brifddinas swyddogol, Blantyre, dinas fwyaf y wlad, yw'r brif ganolfan fasnach. Lleolir Senedd Malawi yno.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Bakili Muluzi (g. 1943), gwleidydd
- Tawonga Chimodzi (g. 1988), chwaraewr pêl-droed
