Macedon
| Math | gwlad ar un adeg |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Ancient Macedonians |
| Prifddinas | Aigai, Pella, Aigai |
| Sefydlwyd |
|
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ancient Macedonian, Hen Roeg |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Macedon |
| Yn ffinio gyda | Thrace, Illyria |
| Cyfesurynnau | 40.477966°N 22.32276°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Synedrion |
![]() | |
| Crefydd/Enwad | crefydd Groeg yr Henfyd |
| Arian | tetradrachm |

Roedd Macedon (a adnabyddir hefyd fel Macedonia) (Groeg: Μακεδονία Makedonía) yn deyrnas hynafol â'i chanolfan yn rhanbarth bresennol Macedonia yng ngogledd Gwlad Groeg, cartref y Macedoniaid hynafol; ar adegau o'i hanes roedd y deyrnas yn cynnwys rhannau o wledydd presennol Gwlad Groeg, Gogledd Macedonia, Albania, Bwlgaria a Thrace. Daeth i ddominyddu'r Roeg hynafol yn y 4 CC, pan lwyddodd Philip II i orfodi'r dinas-wladwriaethau Groeg, fel Athen a Thebes, i ffurfio Cynghrair Corinth. Aeth mab Philip, Alecsander Fawr, ymlaen i oresgyn Ymerodraeth Persia. Er i deyrnas Macedon golli reolaeth ar daleithiau Ymerodraeth Persia, parhaodd i ddominyddu Gwlad Groeg ei hun nes iddi gael ei gwncweru gan Weriniaeth Rhufain yn Rhyfeloedd Macedonia (215 - 148 CC) a dod yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig ar ôl hynny.
