Neidio i'r cynnwys

Rhywioldeb yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia

Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol

[golygu | golygu cod]

Yn 2006 roedd 884 o bobl yng Nghymru (0.03% o'r boblogaeth) yn derbyn triniaeth am HIV/AIDS, tra yn 2002 roedd y ffigur dim ond yn 468; tybir fod y cynnydd hwn yn adlewyrchu diagnosau newydd ond hefyd mwy o achosion o oroesiad oherwydd triniaeth well. Mae cyffredinrwydd HIV/AIDS ar ei uchaf yng nghanolfannau trefol De Cymru ac ar hyd arfordir y Gogledd.[1]

Cynyddodd nifer yr achosion o syffilis heintus o 49 yn 2005 i 73 yn 2006; roedd y mwyafrif o achosion ymysg dynion sy'n cael rhyw gyda dynion, ond gwelir cynnydd graddol yng nghyfrannedd yr achosion lle drosglwyddir yr haint yn heterorywiol, o 22% yn 2002 i 41% yn 2006.[1]

Ystadegau cyffredinol

[golygu | golygu cod]

Darganfu arolwg o 800 o bobl gan S4C yn 2001 y canlynol:[2]

  • taw'r nifer cyfartalog o bartneriaid rhywiol mae pobl yng Nghymru wedi cael yw naw
  • dywedodd hanner eu bod yn ymarfer rhyw diogel (roedd y ffigur hwn yn 60% ar gyfer pobl oed 18–24)
  • bod cyfathrach rywiol yng Nghymru yn para 23.5 munud ar gyfartaledd
  • bod dau berson o bob pump yng Nghymru wedi bod yn anffyddlon
  • bod traean o bobl yng Nghymru wedi cael rhyw gyda chydweithiwr/cydweithwraig
  • dywedodd 59% o bobl yng Nghymru bod rhyw yn rhan bwysig o'u bywydau

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 (Saesneg) HIV and STI trends in Wales. Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (Tachwedd 2007). Adalwyd ar 30 Mai, 2008.
  2. ↑ (Saesneg) Series on sex secrets of Wales. BBC (24 Ionawr, 2002). Adalwyd ar 29 Mai, 2008.