Terry Gilliam
| Terry Gilliam | |
|---|---|
| Llais | Terry gilliam bbc radio4 desert island discs 04 10 2011.flac |
| Ganwyd | Terrence Vance Gilliam 22 Tachwedd 1940 Minneapolis |
| Man preswyl | Highgate |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, digrifwr, animeiddiwr, actor ffilm, actor, actor teledu, cynhyrchydd ffilm, arlunydd comics, cyfarwyddwr, ysgrifennwr, ffotograffydd, cynhyrchydd |
| Adnabyddus am | 12 Monkeys, Fear and Loathing in Las Vegas, The Imaginarium of Doctor Parnassus |
| Priod | Maggie Weston |
| Gwobr/au | Officier des Arts et des Lettres, European Film Award for Best Short Film, Winsor McCay Award, Gwobr Cyflawniad Oes yr Academi Ffilm Ewropeaidd, Gwobr Inkpot, chevalier des Arts et des Lettres, Gwobr Time Machine, Gwobr Flynyddol ACFK |
| Gwefan | http://terrygilliamweb.com/ |
Cyfarwyddwr ffilm, animeiddiwr, digrifwr, ac actor o'r Deyrnas Unedig a ganwyd yn yr Unol Daleithiau yw Terry Gilliam (ganwyd Terrence Vance Gilliam, 22 Tachwedd 1940). [1]
Fe'i ganwyd ar 22 Tachwedd 1940 ym Minneapolis, Minnesota, Unol Daleithiau America. Yn 1952, symudodd ei deulu i Los Angeles, Califfornia. Aeth Gilliam i'r ysgol uwchradd a choleg yno. Ar ôl iddo raddio yn 1972 dechreuodd yrfa yn Ninas Efrog Newydd yn darlunio stribedi cartŵn.[2] Yn 1967 symudodd i Llundain a dechrau gweithio fel animeiddiwr. Daeth yn ddinesydd Prydeinig ym 1968, a daliodd ddinasyddiaeth ddeuol Americanaidd a Phrydeinig am y 38 mlynedd nesaf, nes iddo ymwrthod â'i ddinasyddiaeth Americanaidd yn 2006.
Daeth yn enwog fel aelod o'r grŵp comedi Monty Python gyda John Cleese, Eric Idle, Michael Palin, Terry Jones a Graham Chapman. Gyda'i gilydd fe wnaethant gydweithio ar y gyfres sgets Monty Python's Flying Circus (1969–1974) a'r ffilmiau Monty Python and the Holy Grail (1975, a gyd-gyfarwyddwyd hefyd), Life of Brian (1979) a The Meaning of Life (1983). Dechreuodd Gilliam ei yrfa fel cyfarwyddwr ffilm yn 1975 trwy gyfarwyddo Monty Python and the Holy Grail gyda Terry Jones. Y ffilm fawr gyntaf iddo gyfarwyddo ar ei ben ei hun oedd Jabberwocky (1977), y cyntaf o gyfres estynedig o ffilmiau a oedd yn cynnwys elfennau ffantastig.
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]- (gyda Terry Jones) Monty Python and the Holy Grail (1975)
- Jabberwocky (1977)
- Time Bandits (1981)
- Brazil (1985)
- The Adventures of Baron Munchausen (1988)
- The Fisher King (1991)
- 12 Monkeys (1995)
- Fear and Loathing in Las Vegas (1998)
- The Brothers Grimm (2005)
- Tideland (2005)
- The Imaginarium of Doctor Parnassus (2009)
- The Zero Theorem (2013)
- The Man Who Killed Don Quixote (2018)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "A Short Biography of Terry Gilliam", Dreams: The Terry Gilliam Fanzine; adalwyd 4 Rhagfyr 2025
- ↑ "Terry Gilliam", Lambek Comiclopedia; adalwyd 4 Rhagfyr 2025