HANES PENTREF GLÂN MÔR...
a gorffennol arbennig!


Mae cysylltiad arbennig â’r môr ym Moelfre, Lligwy a Dulas ac ymestyn ymhell i’r gorffennol, yn wir
gellir olrhain yr hanes cyn belled â 4000 o flynyddoedd yn ôl.

Hanes cynnar

Heb fod ymhell oddi wrth ei gilydd gellir gweld - siambr gladdu sy’n dyddio’n i ôl i 2000CC, anheddiad sy’n dyddio o’r cyfnod Brythonig-Rufeinig yn y 4edd ganrif, a Hen Gapel, sy’n dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif.

Pentref â’i wreiddiau yn y cyfnod canoloesol...

Gellir olrhain yr enw 'Moelfre'  i Lyfr Dydd y Farn yn 1306.  Hyd yn oed yn gynharach na hynny yn 1157 cyfeiriwyd at Foelfre fel man allweddol mewn brwydr ar y môr rhwng morwyr Ynys Môn a llongau’r brenin Harri II. Wrth i’r pentref ddatblygu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymsefydlodd nifer o grefftwyr ym Moelfre ond y môr oedd yn denu’r rhan fwyaf o’r pentrefwyr, megis pysgotwyr, morwyr a hyd yn oed perchnogion llongau.

 

Traddodiad morwrol

Mae hanes morwrol yr ardal yn drasig ac yn fyd enwog. Os ewch chi ar hyd y llwybr arfordirol fe welwch chi gofadail llongddrylliad y Royal Charter, a heb fod ymhell mae sedd goffa i gofio am ddewrder y criw bad achub a achubodd griw'r Hindlea, union 100 mlynedd i'r diwrnod y llongddrylliwyd y Royal Charter mewn gwyntoedd enbyd. Mae Dic Evans, cocsen y bad achub hwnnw'n cael ei gofio am ei wrhydri arbennig drwy gydol ei yrfa, a thu allan i'r Wylfan mae cofeb efydd drawiadol i'w goffau. Os edrychwch tua'r môr o safle'r naill longddrylliad neu'r llall, fe welwch Ynys Ddulas, gyda’i thŵr amlwg  a adeiladwyd yn 1824 i gadw bwyd a chynnig lloches i forwyr mewn helbul

Mwy i’w weld...

Ym Mhorth Neigwl mae’r hen gwt bad achub a godwyd yn y 19eg ganrif yn swatio mewn llecyn cynnes yn y pentref, a gallwch weld hen fythynnod cerrig taclus y pysgotwyr ym Mhen Stryd gerllaw. Mae Tŷ'n Graig yn hen fwthyn to gwellt hardd ar gyrion Moelfre, ac yn eglwys Sant Gallgo y claddwyd nifer o’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod trychineb
y Royal Charter. Gerllaw ym mhentref Brynrefail mae cofgolofn y Morisiaid, y brodyr enwog o’r 19eg ganrif.