WALKS IN THE AREA

A number of walks have been designated in and around Moelfre, Lligwy and Dulas to give you a taste of what the area has to offer. They feature the stunning coastline, fabulous beaches and wonderful countryside, and reveal ancient and seafaring history, literary connections and links with many parts of the world. See the map page for all the routes. A limited number of leaflets are available from the Seawatch Centre, Moelfre.

Taith 8000 o Flynyddoedd

Yn ystod y daith archeolegol hon cewch weld ble daethpwyd o hyd i fflint o’r cyfnod Mesolithig ar ymyl clogwyn, safle porthladd pwysig yn y Canol Oesoedd, lleoliad melin, man croesi afon a ffordd o’r cyfnod Canoloesol, anheddiad Celtaidd-Rufeinig a siambr gladdu Neolithig.

Taith Enwog Moelfre a’r Byd

Medalau aur RNLI, enillydd Oscar Hollywood, beirdd ac awduron enwog, canibal, arlunwyr enwog, cenhadwr o’r India, llofruddiaeth yn Llanallgo a llawer mwy... mae’r ymwelwyr enwog a ddaw i Foelfre, a’i gysylltiad â sawl rhan o’r byd yn gwneud Moelfre’n lle unigryw.

Taith Lenyddol

Yn sgil ymweliad Charles Dickens â phentref Moelfre yn 1859 yn dilyn trasiedi’r Royal Charter, fe’i ysbrydolwyd i ysgrifennu ei lyfr The Uncommercial Traveller. Ar y daith hon cewch hanes y Royal Charter, ymweliad Charles Dickens, a sonnir am gysylltiadau llenyddol eraill â’r gymuned hon.

Taith Arfordir Gwyllt Moelfre

Mae Moelfre’n enwog am ei thraddodiad morwrol a dewrder y criwiau bad achub dros y blynyddoedd. Byddwch yn mynd i ddau safle pwysig lle achubwyd criwiau dwy long; cewch glywed sut y llwyddodd Twm Pen Stryd i osgoi trasiedi ar fwrdd llong y Cospatrick yn 1874 drwy fyw fel canibal, a sut cafwyd rhai merched lleol eu lladrata gan llong tramor.

Taith Hanesyddol Moelfre 2km a 4km

Byddwch yn ymweld â gorsaf y bad achub, Swnt a bythynnod y pysgotwyr, y safle lle achubwyd criw’r Hindlea, Porth Helaeth a chofeb y Royal Charter. Ar ôl gweld Ynys Dulas, byddwch yn dychwelyd i bentref Moelfre i weld cerflun efydd y Cocsen Dic Evans yn yr Wylfan.


Mae’r ddwy daith yn dechrau o’r Wylfan ac yn dilyn y llwybr arfordirol i gyfeiriad Swnt. Ar gyfer y daith fer 2km (Taith 5) dilynwch y llwybr ar y chwith heibio i fythynnod y pysgotwyr yn Swnt yn ôl i’r pentref. Ar gyfer y daith 4km (Taith 6) daliwch i gerdded ar hyd y llwybr arfordirol heibio i’r bythynnod.

Taith y Saith Traeth

Mae’r daith hon yn dechrau yn yr Wylfan, Moelfre, ac yn dilyn y llwybr arfordirol i Borth Helaeth, ymlaen tuag at draeth tywodlyd Lligwy, yna i Draeth Dulas drwy Draeth yr Ora - un o drysorau cudd Ynys Môn - cyn dilyn llwybr yr hen smyglwyr at gofgolofn y Morisiaid ym Mrynrefail cyn dychwelyd i Foelfre.

Taith y Canol Oesoedd

Mae’r daith yn dechrau neu’n gorffen naill ai yn nhraeth Lligwy, Eglwys Llanallgo neu faes parcio Brynrefail. Byddwch yn ymweld â Brynrefail ac Eglwys y Plwyf, Mynydd Bodafon a Dulas – porthladd pwysig iawn yn ystod cyfnod y Canol Oesoedd; ewch i weld Din Lligwy – pentref o dai ac adeiladau cerrig Celtaidd-Rufeinig o’r 3/4edd ganrif – eglwys ganoloesol, siambr gladdu Neolithig ac eglwys Llanallgo.