Neidio i'r cynnwys

Llandwrog

Oddi ar Wicipedia
Llandwrog
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,526, 2,466, 2,539 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.07°N 4.32°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000072 Edit this on Wikidata
Cod OSSH450560 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned ger Caernarfon, Gwynedd, yw Llandwrog ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae ar yr A499 hanner ffordd rhwng Caernarfon a Chlynnog. Yn ymyl y pentref ceir Parc Glynllifon, hen blasdy mawr sydd bellach yn ganolfan i weithgareddau o bob math. I'r gogledd mae Morfa Dinlle a'i draeth braf a Bae'r Foryd, lle rhed Afon Gwyrfai i'r môr.

Mae'r pentref wedi bod yn gartref i Gwmni Recordiau Sain ers iw stiwdio recordio cyntaf agor ar fferm Gwernafalau yn 1975.

Yr eglwys

[golygu | golygu cod]

Mae'r eglwys yn gysegredig i Sant Twrog. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan y sant yn y 6g. Yn anffodus dydi'r hen eglwys ddim yn sefyll bellach. Codwyd un newydd yn ei lle yn 1860. Cedwir rhai o'r cofebion i Wyniaid a Glyniaid Glynllifon yn yr eglwys newydd; maen nhw i gyd yn perthyn i'r 18g.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandwrog (pob oed) (2,539)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandwrog) (1,920)
 
77.7%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandwrog) (1910)
 
75.2%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandwrog) (398)
 
36.1%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Atyniadau eraill

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.