Neidio i'r cynnwys

Llanllyfni

Oddi ar Wicipedia
Llanllyfni
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,099, 3,919, 4,135 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.045°N 4.282°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000083 Edit this on Wikidata
Cod OSSH475515 Edit this on Wikidata
Cod postLL54 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanllyfni ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn Nyffryn Nantlle ychydig i'r de o Ben-y-groes, Erbyn hyn mae Pen-y-groes a Llanllyfni bron yn cyffwrdd ei gilydd, gydag Afon Llyfni yn eu gwahanu. Hyd yn ddiweddar roedd y briffordd A487 rhwng Caernarfon a Phorthmadog yn rhedeg trwy ganol y pentref, ond yn awr mae ffordd osgoi newydd wedi lleihau'r drafnidiaeth.

Yr adeilad mwyaf diddorol yn y pentref yw Eglwys Sant Rhedyw. Dywedir i'r eglwys gyntaf ar y safle gael ei sefydlu yn y 4g. Mae traddodiad i Rhedyw (Lladin Redicus) gael ei eni yn Arfon a dod yn swyddog pwysig yn eglwys Augustodunum (Autun heddiw) yng Ngâl. Ei ŵyl Mabsant yw'r 6 Gorffennaf, pan gynheli Gŵyl Rhedyw yn Llanllyfni bob blwyddyn.

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Ymysg enwogion Llanllyfni a'r cylch mae Robert Roberts (Silyn), bardd ac arloeswr Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Mathonwy Hughes, bardd a newyddiadurwr, nai Silyn, ac R. Alun Roberts, ysgolhaig ac arbenigwr ar dyfu gweiriau a bridio anifeiliaid. Claddwyd y Parchedig John Jones, Talysarn ym mynwent yr eglwys.

Yn fwy diweddar, mae enwogion fel Cefin Roberts, sefydlwr yr ysgol berfformio 'Glanaethwy', a Bryn Fôn, y canwr ac actor enwog yn dod o Lanllyfni; a mynychodd Bryn Terfel, y canwr opera byd-enwog, Ysgol Gynradd Llanllyfni cyn mynd ymlaen i Ysgol Dyffryn Nantlle.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanllyfni (pob oed) (4,135)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanllyfni) (3,156)
 
79.2%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanllyfni) (3196)
 
77.3%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanllyfni) (758)
 
41.7%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]